Amser sgrîn ar gyfer arddegwyr

Am chwarae

Amser sgrîn ar gyfer arddegwyr

Mae llawer o deuluoedd am ddod o hyd i gydbwysedd rhesymol rhwng yr amser gaiff ei dreulio o flaen sgrîn ac amser ar gyfer yr holl bethau hwyliog, bywiog a chymdeithasol eraill y gallai dy blentyn eu gwneud.

Amser sgrîn – elfennau cadarnhaol a negyddol

Gall amser sgrîn greu cyfleoedd cadarnhaol ar gyfer:

  • cylchoedd cymdeithasol a chyfeillgarwch
  • gwybodaeth a dysgu
  • adloniant a mwynhad.

Yn ogystal, gall amser sgrîn gael effaith negyddol ar:

  • iechyd a gweithgarwch
  • amser teulu
  • cysylltiadau cymdeithasol
  • ansawdd cwsg
  • golwg.

Pethau i’w gwneud yn lle amser sgrîn – yn enwedig y tu allan

Mae’n dda taro cydbwysedd rhwng amser sgrîn a digonedd o amser ar gyfer chwarae a chymdeithasu, yn enwedig y tu allan. Mae rhai o’r buddiannau’n cynnwys:

  • ffocysu eich llygaid ar bethau ar wahanol bellter – gall hyn helpu i atal problemau gyda’r golwg
  • bod yn gorfforol egnïol bob dydd – bydd hyn yn cadw calonnau a chyrff yn iach
  • chwarae gyda phlant ac oedolion eraill – bydd hyn yn datblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu
  • chwarae gyda phethau – bydd hyn yn datblygu dealltwriaeth o’r byd.

Pethau i bob aelod o’r teulu feddwl amdanyn nhw

Cadw i symud

  • Ceisia annog dy blentyn neu blentyn yn ei arddegau i godi a symud o gwmpas mor aml â phosibl.
  • Rhowch dro ar bethau allai eich helpu i wrthbwyso amser sgrîn, er enghraifft gosod larymau ar ffonau i’ch atgoffa i gael saib a symud o gwmpas.

Gwneud amserau bwyd yn adeg di-sgrîn

  • Ceisiwch ymestyn yr amser di-sgrîn – peidiwch â rhuthro pryd bwyd er mwyn mynd yn ôl at y sgrîn.
  • Ewch am dro, cael sgwrs, chwarae cardiau neu gêm fwrdd ar ôl pryd bwyd.
  • Gofyn i dy blentyn neu blentyn yn ei arddegau ymuno yn y gwaith o baratoi bwyd a chlirio ar ôl y pryd.

Cynllunio gyda’ch gilydd

  • Have a discussion with your child or teenager about how long it’s okay to use screens – and help them stick to the plan.
  • Use timers on routers, or agree that all devices – including yours – will be in a particular place (like a basket) at set times, for example overnight.
  • Set an example. Put your own phone or other devices away and give your child or teenager your full attention.

Cysgu’n dda

  • Dylech osgoi sgriniau am awr cyn mynd i’r gwely.
  • Cadwch ystafelloedd gwely mor ddi-sgrîn â phosibl.
  • Ewch am dro gyda’ch gilydd wedi iddi nosi.
  • Dwedwch straeon amser gwely.
  • Chwiliwch am drefn noswylio sy’n gweithio i chi.

Bydd yn effro

  • Bydd yn ymwybodol, ond ddim yn fusneslyd nac yn feirniadol, pan ddaw’n fater o ddefnydd dy blentyn yn ei arddegau o’r rhyngrwyd.
  • Cadw lygad ar yr hyn y mae dy blentyn yn ei wneud ar y rhyngrwyd a pha gemau y mae’n eu chwarae ar-lein er mwyn gwneud yn siŵr nad yw’n cael mynediad i gynnwys sy’n amhriodol neu’n niweidiol.

Cofia, mae plant ifanc angen rhyngweithio cymdeithasol uniongyrchol er mwyn datblygu iaith a sgiliau eraill. All sgriniau fyth gymryd lle hynny.

English