Hongian o gwmpas

Am chwarae

Hongian o gwmpas

Mae hongian o gwmpas yn rhan hwyliog o’r arddegau. Mae llawer o arddegwyr yn mwynhau gweithgareddau wedi eu trefnu, fel chwaraeon a chlybiau, ac yn ymrwymo’n llwyr iddyn nhw. Byddan nhw’n aml yn dechrau hongian o gwmpas mewn ffyrdd llai ffurfiol hefyd.

Mae hongian o gwmpas yn amser pryd y gall arddegwyr fod gyda’i gilydd a chymdeithasu gydag ond ychydig neu ddim goruchwyliaeth gan oedolion. ’Does neb yn trefnu’r hyn fyddan nhw’n ei wneud ar eu cyfer.

Weithiau, fe fyddwn ni’n meddwl am hongian o gwmpas fel gwneud dim byd mewn gwirionedd. Mae’n bosibl y byddai arddegwyr yn dweud hynny hefyd! O’r tu allan, gall hongian o gwmpas ymddangos yn ddibwrpas neu’n wirion a doniol. Ond mae’n weithgaredd pwysig ar gyfer arddegwyr.

Mae llawer o bethau buddiol yn digwydd. Pan maen nhw’n hongian o gwmpas, mae’n bosibl bod arddegwyr yn:

  • profi annibyniaeth am y tro cyntaf
  • ffurfio cyfeillgarwch a chysylltiadau dwfn
  • ennill ymdeimlad o fod yn rhan o grŵp ble maent yn profi ffyddlondeb ac ymddiriedaeth
  • mwynhau eu hunain a chael lot o hwyl
  • siarad am faterion sydd o bwys personol iddyn nhw
  • cyfnewid barn a chlywed safbwyntiau pobl eraill
  • gweithio allan sut i ryngweithio gyda phobl eraill o gylchoedd cymdeithasol ehangach.

Mae’n bosibl y byddan nhw hefyd yn profi pethau fel:

  • dadlau
  • ymbellhau
  • darganfod bod ganddyn nhw lai yn gyffredin gyda neu farn wahanol i bobl yr oedden nhw’n cytuno gyda nhw yn y gorffennol.

Mae’r rhain i gyd yn brofiadau y byddan nhw’n dysgu oddi wrthynt, hyd yn oed os ydyn nhw’n teimlo’n anodd ar y pryd. 

Disgwyliadau pobl eraill

Pan fydd arddegwyr yn hongian o gwmpas fydd hynny ddim yn cyd-fynd bob amser gyda disgwyliadau pobl eraill o sut i ymddwyn yn gyhoeddus. Efallai na fyddan nhw’n mynegi eu hunain fel y byddet ti neu fel yr hoffet ti iddyn nhw. Weithiau, bydd grwpiau o arddegwyr sy’n hongian o gwmpas:

  • yn swnllyd ac yn rhegi
  • yn fywiog ac yn llawn egni
  • yn gorfforol chwareus gyda’i gilydd (gwthio a phwnio, chwarae’n wyllt).

Pan nad oes llawer o opsiynau o ran mannau i hongian o gwmpas gall hyn arwain at arddegwyr yn gwrthdaro gyda phobl eraill o’u hamgylch. Mae mwy o wybodaeth ar ble bydd arddegwyr yn treulio eu hamser ar y dudalen Mannau i hongian o gwmpas.

Ymdeimlad o annibyniaeth

Hongian o gwmpas ydi un o’r ffyrdd y bydd dy blentyn yn ei arddegau’n profi mwy o annibyniaeth. Mae’n bosibl y byddi’n teimlo bod gennyt lai o ddylanwad ar eu penderfyniadau a’u dewisiadau nag o’r blaen. Maen nhw’n aml yn troi at eu cyfoedion am dderbyniad, statws a chyfeillgarwch. Mae barn a normau’r grŵp yn debyg o gael dylanwad mawr arnyn nhw.

Hyd yn oed pan fydd arddegwyr yn gwneud dewisiadau mwy annibynnol ac, weithiau, gamgymeriadau, mae dy berthynas gyda nhw’n sail bwysig fydd yn eu helpu i deimlo’n ddiogel a digon hyderus i fynd allan i’r byd.

Bydd rhai arddegwyr angen mwy o gefnogaeth, anogaeth neu strwythur i brofi ymdeimlad o annibyniaeth. Mae’n arbennig o heriol os nad wyt ti’n hyderus y gallan nhw farnu sut i gadw’n ddiogel. Gall meddwl trwy bethau gyda’ch gilydd helpu. Efallai y gallai’r pwyntiau canlynol helpu i gychwyn y sgwrs.

  • Mae’n iawn i ofyn am help a chefnogaeth.
  • ’Does neb yn gwneud popeth yn gwbl annibynnol yn ein bywydau – fe fyddwn ni’n derbyn cymorth a chefnogaeth mewn llawer o ffyrdd ar wahanol adegau.
  • Mae’n iawn cymryd camau bychain, am gyn hired ag sydd angen, i weithio at rywbeth yr hoffech ei wneud.
  • Gall deimlo’n dda i helpu a chefnogi rhywun arall hefyd.

Pennu terfynau

Bydd arddegwyr yn dal i chwilio am derfynau ac maen nhw angen teimlo’n gyfforddus am yr hyn a ddisgwylir. Mae’n eu helpu i wybod pethau fel:

  • faint o’r gloch fyddi di’n disgwyl iddyn nhw fod adref
  • beth i’w wneud os ydyn nhw’n teimlo mewn perygl neu os aiff rhywbeth o’i le
  • pa mor bell o adref mae hawl ganddyn nhw fynd
  • gyda phwy y mae’n iawn iddyn nhw fod.

Mae arddegwyr yn fwy tebygol o gadw at derfynau cytûn os ydyn nhw wedi bod yn rhan o’u pennu.

Siarad am hongian o gwmpas

Gall cael mwy o ryddid ac annibyniaeth newid dy berthynas gyda dy blentyn yn ei arddegau. Gall pethau fod yn ddychrynllyd ac yn werthfawr i’r ddau / ddwy ohonoch!

Mae’n annhebyg y bydd yr arddegwyr yn dy fywyd yn rhannu holl fanylion yr hyn y maen nhw’n ei wneud neu gyda phwy maen nhw. Fe wnânt rannu’r hyn y maent yn dewis ei rannu, pan maen nhw’n dewis gwneud hynny. Mae’n bosibl na chei di wybod am rai pethau fyth!

Pan fyddan nhw’n dy gynnwys mewn sgyrsiau am hongian o gwmpas, mae’n dangos eu bod nhw’n ymddiried ynot ti a’u bod am dy gynnwys.

Cer i’n tudalen ar mannau i hongian o gwmpas am gynghorion ar y mannau y mae arddegwyr yn hoffi ymgynnull ynddyn nhw.

English